Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

4/13/2006

Llongyfarchiadau

Unwaith eto ma hi'n amser maith ers i fi updatio y blog ma dwethaf, dwi ond efo broadband ar y penwythnos.

Anyway, dwi am tori rheol enwi post fi ar ôl can ar hap yn itunes i llongyfarch fy mrawd Gethin am curo'r nationwide mercury art award nos Llun. Bydd ei waith yn ymddangos ar clawr y compilation cd mercury awards fydd allan yn mis Awst.

Gellir gweld ychydig o waith Gethin ar ei wefan http://www.gethinjones.com/

Hwyl

2/02/2006

Sleep Now In The Fire

Wehei dwi'n free man am y wythnos neu ddau nesaf, newydd orffen swydd dwi wedi bod efo ers blwyddyn a hanner. Fysai'n licio cymeryd y cyfle i ddiolch i pawb nesi cyfarfod yn y swydd am amser da gesi yna. Rwan dwi'n edrych i'r dyfodol a'r profiad o symud yn mlaen i ardal hollol newydd i fyw. Unrhywun allan yna'n byw yn Wrecsam????

1/01/2006

The Sky Is Fallin'

Blwyddyn newydd dda pawb.

Wel 2005 blwyddyn diddorol iawn. Un neu ddau uchafbwynt yn sticio allan i fi, Graddio(Ar ôl bump mlynedd o coleg!), Lerpwl yn curo cwpan ewrop a Cymru'n curo'r chwech gwlad. Dwi ddim yn gallu meddwl am ddim byd arall nath digwydd.

Mewn blwyddyn union fyddai'n 25 mlwydd oed scary stuff.

Hwyl

12/13/2005

Roulette Dares (The Haunt Of)

Diflasdod. Rhaid fi ddeud mae'r misoedd dwethaf ma di bod yn boring iawn. Does gennai ddim mynadd neud dim byd byth, a dwi yn gallu teimlo fy hyn yn mynd mwy a mwy unfit pob diwrnod. A fedrai ddim trio codi fitness lefel fi gan dwi di anafu fy mhenglin drwy nofio gormod.

Hefyd pam fod na ddim byd o gwbwl i'w wylio ar teledu ddim mwy, ma'r teledu mor shit yn ddiweddar dwi ddim di bod efo fo'n mlaen. Ar y nodyn yna fyd be ddiawl oedd y rhaglen rygbi shit na ar s4c neithiwr, sgorio sydd fod am 9:30 ddim rhyw juncket o amgylch clwbiau rygbi de cymru , a cael contest yn dangos pa mor "macho" mae nhw. Be di'r point ond rhyw 10 tim gwerth siarad am sydd yn chwara internationals, diom rhyfedd bod cymru'n dda ynddo fo. A fel fysa Goro'n ddeud ma'n bel siap wrong. [/rant]

Dwi angen darganfod hobbies newydd, os oes gan rhywun unrhyw syniadau?



10/18/2005

Thank You

Helo ers amser maith. Pawb yn iawn?

Dwi'n teimlo fel bod amser yn hedfan ar y funud a dwi ddim yn cofio'n iawn be ddiawl dwi di bod yn neud yn ddiweddar. A dwi'n gwbod fydd gennai fawr ddim o amser ar ôl dydd Gwener gan bod pro evolution 5 yn dod allan. Dwi methu disgwyl, dylsa fo yn wych.

Dwi rwan di adio cyswllt i cyfri flickr fi www.flickr.com/photos/tronaldo/

Gyrrwch neges i fi os da chi isio i fi adio cyswllt i'ch gwefan chi.

8/16/2005

Otto's Journey

Newydd cael dau siom heddiw. Nesi sylwi bod genai comment ar post dwethaf fi ac nesi exitio, clicio ar y cyswllt a darganfod na sbam oedd yn fy nisgwyl. Briliant.

Ar un arall oedd newyddion drwg gan Argos. Nesi penderfynnu dechra'r haf bod o nisio punch bag i'w rhoi yn y garej a felly esi i Argos a ordro un. Dwedodd nhw fysa fo cwpwl o wythnosau'n cyrraedd. Fair enough, ond mae'r thing dal ddim di cyrraedd, ond ma nhw di bod digon caredig i tynnu arian allan o cyfri banc fi. Bore ma gesi llythyr yn deud fydd nhw'n cael y punch bag mewn stoc ar y 26 o mis yma. Ond pan nesi gyrraedd adref ar ôl gwaith oedd na neges yn gofyn i fi ffonio Argos. Nesi ffonio a darganfod bod nhw ddim am gael mwy o'r punch bags ma fewn ac dio ddim am fod yn y catalog nesaf chwaith. So ma nhw di cael mis a hanner o'n arian i, just i droi rownd a deud bod di nhw ddim yn gwerthu nhw ddim mwy. Mae'n anodd iawn cadw'n calm, mi fysa punch bag di bod yn dda ar gyfer adegau fel hyn.

Diolch yn fawr Argos am gwastio amser fi, mi fyddai byth yn prynnu rhywbeth o'ch siop eto.

Tronaldo

7/22/2005

Go Home, Get Down

Wel fyddai'n methu deud dim ar y blog am wythnos rwan, gan dwi'n mynd ffwrdd i Kavos ar gwyliau.

Hwyl

Tronaldo