Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

9/03/2004

Pub

Ok oedd o braidd yn wirion i fi ddeud bod oedd genai lot i ddeud tro dwethaf doedd!!! Mi fydd rhaid fi cofio adio mwy i hwn dros yr wythnosa ma hefyd.

Ar hyn o bryd dwi'n gwbod ma na o leiaf 2 person di darllen y blog. Ond dwi ddim yn disgwyl mwy os dwi'n cario'n mlaen fel hyn.

Wel well fi droi hi dwi fod yn Bangor uchaf mewn 5 munud.

Hwyl (Pam dwi'n deud hyn dwi ddim yn gwbod :-) )

3 Sylwadau:

Blogger Nic dwedodd...

Mae mwy na dau sy'n darllen, dwedwn i, ond os wyt ti moyn denu mwy o ymwelwyr (a mwy o adborth) bydd rhaid i ti rhoi tipyn bach mwy i ni ddarllen. A mwy o ddolenni. Dw i ddim yn ymweld oni bai bod Bloglines yn dweud wrtha i dy fod di wedi postio rhywbeth newydd, ac hyd yn oed wedyn, os ti'n jyst dweud bod dim byd 'da ti i'w ddweud, annhebyg iawn bydda i'n boddran. Dw i'n gwybod sut mae bod yn arddegwr diflas, dw i wedi bod 'na. ;-)

Ddim am sbel, obviously.

12:21 pm

 
Blogger Tronaldo dwedodd...

Just yn jocian bod o ni'n gwbod bod dau person di darllen o ni, wrth gwrs fydd rhaid fi son bod dwi'n gwbod am tri rwan :). Ydi bloglines yn eithaf da felly, gan dwi ddim yn brofiadol iawn efo'r blogio ma? Diolch am meddwl bod dwi'n arddegwr yn anffodus dwi di pasio'r stage yna gweathar modd :( Dwi'n gobeithio fydd genai fwy i ddeud yn yr wythnosau nesaf hefyd, plus dwi ar ganol meddwl am newid y layout, os nai feddwl am syniad da. Diolch am ddarllen y safle

5:00 pm

 
Blogger Nic dwedodd...

MAe Bloglines yn werth sieco mas, ond mae'n werth trial darllen cymaint o flogiau gwahanol bob dydd ag y gelli di. Dyma beth dw i'n wneud, i ffeindio storiau diddorol, a'u dwyn ;-)

Mae Metafilter yn un lle da i ddechrau, neu BoingBoing, ond mae'n dibynnu ar dy ddiddordebau di, rili. Beth yw dy hoff safleoedd pêl-droed? Ble wyt ti'n darllen y newyddion? Ac yn y blaen.

Hefyd, wrth ymweld â blogiau eraill, cofia gadael neges arnyn nhw os ti'n dod ar draws rhywbeth diddorol. Bydd pobl wedyn yn gweld dy URL di, a dod yma. Hyd yn oed dydyn nhw ddim yn deall y Gymraeg, byddi di'n synnu faint o amser bydd pobl yn treulio ar wefan mewn iaith dierth, trial ffeindio rhywbeth maen nhw'n deall/mwynhau. Dw i wedi dolenni diddorol ar flogiau Islandeg, Rwseg, Ffrangeg ac yn y blaen, felly paid meddwl taw dim ond darllenwyr Cymraeg fydd yn dod yma.

Sori, nid gwers mewn blogio yw hon, rhaid i ti ffeindio dy ffordd dy hunan - dy flog di yw e.

5:26 pm

 

Post a Comment

<< Cartref