Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

9/07/2004

Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon

Wel be di barn pawb am gem fory?
Dwi'n meddwl fydd hi'n gem agos iawn, dwi just yn gobeithio fydd Cymru efo digon o egni ar ol yn y tanc i guro. Mi fysa colli fory yn drychineb bach i'n cyfle ni i chwara'n yr Almaen. Dyma be fysa tim fi ar gyfer fory,

................................Jones.....................................

Delaney..........Melville...........Gabbidon...........Thatcher

Koumas..........Savage.............Speed.................Oster

....................Hartson............Bellamy........................

Mi fysai wedyn yn dod a Earnshaw'n mlaen yn yr ail hanner efo 30 munud i fynd yn lle Hartson, gan no chance fyddo'n gallu chwarae dau gem cyfan mewn cyn lleiad o ddyddiau. A dim efo just rhyw 5 munud i fynd.

Ar nodyn arall ma na son ar negesfwrdd Dragon Soccer bod Sky ddim am ddangos yr anthemau fory, os di hyn yn wir ma'n newyddion ofnadwy, hwn yw un o'r darna gora gem rhyngwladol.

Oes na rhywun yn cael problem darllen comments ar y blog ma oherwydd nesi ymateb i comment Nic Dafis ond dwi methu gweld y comment!!!!