Wel wel wel
Be ddiawl ddigwyddodd nos Fercher dwethaf!!!
Oedd Cymru'n uffernol. Ma di cymeryd bron wythnos i fi ddod dros y peth yn iawn. a dwi ddim isio meddwl am yr ref na (bloody eidalwyr). Rhaid fi ddeud de bod yr wlad yna'n mynd lawr yn rhestr fi bron pob wythnos, ma nhw bron a cyrraedd lefel Ffrainc (y wlad ddim y pobl).
Ond ar nodyn arall oedd tim fi bron yn hollol gywir, ond Collins nesi ddim darogan (ond wedyn pwy nath ddarogan hynnu!!).
Wel fel da chi ella'n sylwi ma'r blog yn dechra newid yn araf bach, dwi'n trio'n gorau ond ma genai loads o petha i neud ar y funud. Dwi'n trio sortio lloft fi allan gan fod genai ormod o junk o gwmpas y lle. Plus trio curo'r master league ar Pro Evo 2, dwi'n gwbod bod o'n hen, ond oedd o'n bargen am £8, ond dwi wedi neud yn siwr bod Pro Evo 4 yn cyrraedd ty diwrnod fydd o allan (wel gobeithio de).
Or diwedd hefyd dwi di cael rownd i wrando ar caneon mwgdrwg ar meddwi.com (dwi'n ymddiheuro Mwgdrwg), caneon da iawn very chilled out.
Hwyl am y tro
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Cartref