Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

9/21/2004

Strange Brew

Wel dwi'n ymddiheuro am fod mor wael yn cadw'r safle ma up to date, ond dwi ddim di bod efo lot o betha i sgwenu am yn ddiweddar. Be sydd di digwydd ers fi postio dwethaf? Ym ma Lerpwl di curo dau gem a colli un :(. Ma na stiwdants nol yn bangor. A dwi di ordro gem newydd sef Final Fantasy XI, dwi'n really edrych yn mlaen i chwara hwn, ma'n gem ar-lein, a mae o fod yn dda iawn. Dwi'n ffan mawr o'r gemau eraill, oedd Final Fantasy 7 yn wych, a oedd na stori really dda, ond braidd yn confusing.

Reit hwyl am y tro