Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

9/23/2004

End Of A Century

Wel mae wythnos arall bron drosodd, lle does fawr o ddim di digwydd. Wel ok ma hynna'n celwydd ond dyna fo. Dwi'n edrych yn mlaen am y penwythnos gan am unwaith dylsai fod yn eithaf brysyr. Nos fory dwi'n mynd ar stag night ar ol gwaith a nos Sadwrn dwi'n mynd allan i Bangor am piss up.

Ar nodyn arall o ni'n siomedig i glywed bod Nic di gorfod cau maes-e i lawr, ond dwi'n deallt yn iawn ei benderfyniad. Mae'n anodd iawn gorfod edrych ar ol safle we normal heb son am gorfod trio edrych ar ol rhywbeth lle gellir pobl sgwennu negeseuon ei hynain. Ond mis yma ddaru Lord
Robertson curo legal action yn erbyn y Sunday Herald am rhywbeth gafodd ei sgwennu am dano ar negesfwrdd y papur (Dwi'n ymddiheuro bod y linc yn hen ond dwi methu darganfod y stori diweddaraf). Ond pob lwc efo dy penderfyniad ti Nic, dwi'n siwr bod y rhan fwayf o ymwelwyr maes-e yn cytuno efo be ti'n neud.

Tronaldo