Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

8/16/2005

Otto's Journey

Newydd cael dau siom heddiw. Nesi sylwi bod genai comment ar post dwethaf fi ac nesi exitio, clicio ar y cyswllt a darganfod na sbam oedd yn fy nisgwyl. Briliant.

Ar un arall oedd newyddion drwg gan Argos. Nesi penderfynnu dechra'r haf bod o nisio punch bag i'w rhoi yn y garej a felly esi i Argos a ordro un. Dwedodd nhw fysa fo cwpwl o wythnosau'n cyrraedd. Fair enough, ond mae'r thing dal ddim di cyrraedd, ond ma nhw di bod digon caredig i tynnu arian allan o cyfri banc fi. Bore ma gesi llythyr yn deud fydd nhw'n cael y punch bag mewn stoc ar y 26 o mis yma. Ond pan nesi gyrraedd adref ar ôl gwaith oedd na neges yn gofyn i fi ffonio Argos. Nesi ffonio a darganfod bod nhw ddim am gael mwy o'r punch bags ma fewn ac dio ddim am fod yn y catalog nesaf chwaith. So ma nhw di cael mis a hanner o'n arian i, just i droi rownd a deud bod di nhw ddim yn gwerthu nhw ddim mwy. Mae'n anodd iawn cadw'n calm, mi fysa punch bag di bod yn dda ar gyfer adegau fel hyn.

Diolch yn fawr Argos am gwastio amser fi, mi fyddai byth yn prynnu rhywbeth o'ch siop eto.

Tronaldo