Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

4/19/2005

Born To End

Wel fel ma bron pawb yn gwybod ma etholiad cenedlaethol yn ei anterth. Ond dwi di penderfynnu fy mod i ddim am siarad am gwleidyddiaeth o gwbwl ar y blog yma, neu fyddai just yn troi hwn fewn i blog o rantio. Felly heddiw dwi am refiwio un o'r albums dwethaf i fi brynnu.

Queens Of The Stone Age - Lullabies To Paralyze
O ni'n really'n edrych yn mlaen i wrando ar yr albwm newydd ma ar ôl bod yn ffan enfawr o'r crynoddisg dwethaf nhw Songs For The Deaf. Rhaid fi ddeud o ni wedi siomi'n arw arno ar ôl y grandawiad cyntaf. Doedd o ddim byd debyg i'r albwm cynt, oedd o'n teimlo fel bod lot llai o egni ynddo na'r Songs For The Deaf. Ond o ni'n hollol anghywir (diolch byth), ac ar ôl gwrando arno ychydig o weithiau o ni'n hooked, ma'n real growar. Mae'r ail gan Medication yn pigo petha fyny'n dda iawn. Be dwi'n hoffi am yr albwm ydi'r newid yn y pace rhwng caneon, a fel ma rhai caneon yn newid hanner ffordd trwodd fel Everybody Knows That You Are Insane, sydd yn can wych. Caneon da arall yn fy marn i ydi Tangled Up In Plaid, In My Head, Little Sister (y single dyweddar) a I Never Came. Yr unig draw back am yr albwm ydi efallai bod o ychydig bach rhy hir, does na ddim pwrpas cael y bonus tracs. Mae'r DVD gesi efo'r albwm braidd yn wael hefyd ond wedyn dwi'm really'n gallu cwyno gan oedd o am ddim. Felly dwi am rhoi sgor o 8.5/10 i'r albwm yma gan ma bron iawn fyny na efo Songs For The Deaf.

Nicotine, valium, vicodin, marijuana, ecstasy and alcohol.
Nicotine, valium, vicodin, marijuana, ecstasy and alcohol.
C-c-c-c-Cocaine