On The Run
Waw ma hi di bod 2 fis ers fi updatio hwn dwethaf. Dwi ddim di cael lot ar fy feddwl na amser i sgwennu'n ddiweddar gan fy mod wedi bod yn trio adolygu ar gyfer arholiad pwysig uffernol. Dio ddim yn hawdd trio gweithio llawn amser a adolygu, ma'n ymenudd i di bod yn cael overload. Dwi ddim isio gwbod dim mwy am y TCP/IP protocol suite a sut ma'r Internet yn gweithio'n go iawn byth eto.
Update sprouts
Dwi'n meddwl bod oedd hi'n syniad gwirion bwyta gymaint cyn dolig, o ni prin methu stumogi nhw yn ystod y cinio dolig. Ond o gwmpas 4 nesi fedru bwyta, siomedig iawn, fydd rhaid fi drio'n well blwyddyn nesaf. Ond i neud fyny am y methiant hyn nesi fwyta gymaint o stwffing a pys mushy a o ni'n gallu, result.
Tron
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Cartref