Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

4/17/2005

Fight Test

Well ar ôl noson dda allan yn yr Octagon neithiwr! Siomedig oedd darganfod bod fy tim hattrick KFC Select XI (177893) wedi cael gem gyfartal 2-2 yn erbyn tim sydd ar gwaelod cynghrair fi (IV.7). Dwi di colli'r cyfle i gadw'r pwysa ar y tim ar y brig, oedden ni'n cael ein gwahanu gan wahaniaeth goliau ddoe. Y siom, y siom. Fedrai dal cael dyrchafiad o'r cynghrair yma, ond fydd rhaid i'r tim curo pob gem, a dwi ddim yn gweld hynny'n digwydd.

Mae Hattrick yn gem arlein sy'n debyg iawn i Championship Manager. Da chi'n cael tim a budget i wario ar prynnu chwarawyr, gwella'r stadiwm ayb. Mae'n really dda, dwi di bod yn chwara rwan ers Gorffenaf dwethaf, a mae tim fi di newid dipyn ers hynny. Yn y dechra o ni methu curo gem i safio'n mywyd, ond rwan ma genai syniad lot gwell o be i wneud. Mae gemau'n cael ei chwara pob nos Sadwrn ond does ddim angen gwneud dim ar ei gyfer gan mae pob peth yn cael ei wneud yn awtomatic.



Wel eshi ychydig off tangent yn y post dwethaf a nesi'm cael cyfle i orffen siarad am World of Warcraft. Dwi di bod yn ei chwara fo rwan ers iddo ddod allan yn Chwefror a wedi cyrraedd lefal 33, sy'n ok ond ddim yn hollol impressive. Ma na rhai pobl di cael fyny i lefel 60 ond ma rhai pobl heb bywyd. Dwi'n chwara fel Undead warrior ar server ble ma'r ddau ochr yn gallu cwffio'i gilydd, ma hyn yn dda weithia ond yn hollol annoying pan ma rhywun lot gwell na fi'n lladd fi am ddim rheswm. Nath y syniad o cael guild (sef grwp o chwarawyr sy'n chwara efo'i gilydd trwy'r adeg) cymraeg ddim dod i ffrwythlondeb, fysa fo di bod braidd yn wirion efo just dau ohonno ni ynddo, ond o wel nath ni drio. Dwi rwan yn aelod o'r guild Iron Edge a mae'n guild eithaf da gyda digon o pobl i helpu allan gyda quests. Os di rhywun allan yna efo lot o amser sbar ar ei dwylo fyddai'n seriously meddwl dylsa chi cysidro prynnu'r gem. Diolch byth nath hwn ddim dod allan pan o ni'n coleg neu fysai'n bellach ffwrdd o graddio na ydwi rwan.

Hwyl am y tro, well fi fynd i studio mwy am databases(hwyl a sbri).