Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

4/27/2005

Archives Of Pain

Da iawn Lerpwl.

Doedd neb yn disgwyl i ni cael gem gyfartal yn Stamford Bridge, ond ma nhw di tynnu o ffwrdd (crap anology saesneg). Ond ma'n gem o dau hanner :), neu ma'n neud ei A Levels(dim lefel A) fel fysa Malcolm Allen yn ddeud. Fedra ni ddim disgwyl curo'r gem nesaf ma am fod yn anodd iawn. Ma colli Alonso yn warthus a ma angen i rhywun codi fyny i gael ei gyfri :). Pwy fydd hwnna dwi ddim yn gwbod.

Dwi'n eithaf hapus am gem heno gan nesi cadw'n eithaf cool, nesi ond gwylltio unwaith, sef pan gafodd Alonso ei bookio. Sydd llawer gwell na'r Carling Cup final lle o ni di mynd yn wallgo. O ni dan ordors i beidio rhegi a nesi rhywffordd mynd y nawdeg munud heb ddeud dim, gwych. Oedd hyn yn rhywbeth nath Dad ddim gallu neud, a dio ddim hydnoed yn cefnogi Lerpwl.

Ma gem nos Fawrth nesa am fod yn anodd iawn a dwi ddim yn gweld Lerpwl yn cael y result cywir, ond dyna fo da ni di trio ond dwi just ddim yn gweld ni'n cael trwodd (dwi ddim yn pessimist onest).



Nesi ddarganfod gwefan gwych heddiw http://www.theyworkforyou.com/ lle fedra chi ddarganfod be mach aelod seneddol di bod yn neud yn ddiweddar. Ma'n really diddorol a yn agoriad llygad, fel be ddiawl ma Betty Williams(mwyafrif o dros 6 mil!!!!!) a Albert Owen(mwyafrif 800) di bod yn neud i heuddo fod yn aeglodau seneddol. Dwi ddim am ddeud dim de



Dwi ddim yn gweld fi'n updatio'r blog ma lot yn y dyfodol agos gan fydd gynnai ddim gymaint a hynny o amser sbar tan ar ôl y 16au o Mehefin. Dwi efo arholiad Databases dwi'n gorfod pasio neu dwi ddim yn graddio. Felly hwyl am y tro.

P.S. oes na rhywun yn gwbod be di candidate keys????

Tronaldo

o.n. dwi di gorfod updatio hwn 2 waith yn barod ar ôl darganfod gwallau yn fy sgwennu, ond ma genai rheswm digonol dwi yn pissed. Ewadd ma'r hoegaarden ma'n dda.

1 Sylwadau:

Anonymous Anonymous dwedodd...

Je n'ai pas r�alis� qu'il y avait tant d'emplacements de criminal law/harassment. Votre est tr�s agr�able, la mine aussi bien n'est pas faite en tant que v�tre.Byebye, Julian criminal law/harassment

5:02 am

 

Post a Comment

<< Cartref