Mister Psycho
Unwaith eto ma na bron dau fis di pasio ers i fi sgwennu yma. Efallai fydd rhaid fi rhoi'r ffidil yn y to cyn bo hir.
Dwi efo un rheswm ofnadwy am diffyg yma, dwi'n addicted i World Of Warcraft. Sef gem newydd online roleplaying gan Blizzard. Dwi yn berson sydd di bod efo diddordeb mawr mewn gemau cyfrifiaduron ers cael Spectrum yn y wythdegau, a ma'r rhan fwyaf o'n mywyd tua allan gwaith yn cael ei wastio ar gemau, ond ma'r gem ma'n cymeryd y piss ma mor addictive. Ond yn deud hynny dio ddim di stopio fi fynd allan i yfed neu petha felly (di hynny just ddim yn digwydd mor aml a fysai'n hoffi). O ni'n chwara lot o Goldeneye yn y gorffennol, ond oedd hynna ond yn digwydd gan fod genai dau frawd, oedd tri set o ffrindiau yn golygu bod na rhywun am fod draw trwy'r adeg bron.
Dwi'n cofio unwaith rhywun yn challengio fi i duel ar y gem (nai ddim enwi pwy oeddo). Nath y boi ma mynd mlaen a mlaen am pam mor dda oeddo, brolio bod o di gorffen o ar y lefal anodda (007 agent level) rhywbeth neshi erioed gallu gwneud. Nath un on ffrindiau i chwara'n y gem hefyd ond doedd o ddim efo fawr o brofiad yn y gem. Wel nath y gem ddechra a nesi fynd ar y blaen yn syth, briliant. Wel nath hyn cario'n mlaen am oesoedd, oedd y boi methu cwffwrdd fi a ac ar ol dipyn oedd y sgor yn chwerthinllyd o uchel. O ni di lladd y person ma ogwmpas ugain o weithiau a doedd o ddim di gallu lladd fi unwaith, oedd o'n braf gweld ei ego fo di byrstio am dipyn (wahahaha). Yn y pen draw nath o lladd fi, a dwi erioed di gweld neb yn mynd mor fabiaidd yn fy mywyd, oedd o fatha bod o di curo cwpan y byd neu rhywbeth. Ond chwara teg iddo fo nath o byth dysgu ei wers. Ma'n rhaid fi ddeud confesiwn rwan, nesi cheatio yn ystod y gem, nesi ddim bothero mynd ar ol ffrind fi o gwbwl yr unig person o ni isio'i lladd oedd o, sad dwi'n gwbod ond oedd o wertho.
Wel well fi fynd rwan, neu fydd genai ddim byd i siarad am dau fis eto.
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Cartref