Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

9/29/2004

Sega Segur

Helo pawb, dwi'n teimlo mewn mwd briliant heno. Dwi newydd fod yn nofio yn Bangor, a pan nesi ddod adra oedd na steak yn disgwyl am dano fi!!! Cashback.

Neis iawn oedd o hefyd, o ni'n llwglyd iawn ar ôl nofio 50 o weithiau ar hyd y pwll.

O ia pan dwi dal yn cofio nesi son fysai'n rhoi lluniau o pissup gwaith fyny. Felly os oes na rhywun efo diddordeb ma na cwpwl o fideo's ar y gwefan yma. Dwi'n gobeithio rhoi mwy o stwff fyny'n fuan, ond dwi isio resizio'r llunia gyntaf, ma nhw braidd rhy fawr i rhoi fyny ar y funud.

Wel, oherwydd bod na gymaint o pobl di bod ar y website arall ma lycos di cau o lawr. O wel de. Oes na rhywun yn gwybod am unrhyw gwefan rhad ac am ddim fedrai rhoi'r fideo's fyny ar? Gadewch rhywbeth yn y lle sylwadau os da chi yn.

Hwyl

Tronaldo