Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

7/22/2005

Go Home, Get Down

Wel fyddai'n methu deud dim ar y blog am wythnos rwan, gan dwi'n mynd ffwrdd i Kavos ar gwyliau.

Hwyl

Tronaldo

7/18/2005

Friend Is A Four Letter Word

Helo darllenwyr brwd, dwi'n nol efo update bach sydyn (gobeithio).

Wedi bod braidd yn hectic ar y funud lot o pethau gennai i wneud, felly y blog fel pob amser yn cael ei adael tan olaf. Dydd Gwener eshi draw i Aberystwyth ar gyfer fy seremoni graddio (wooohhhoooo). Wedyn oedd rhaid fi heglu hi draw i'r sesiwn fawr. ar ôl cyrraedd o ni'n dyfaru yfed gymaint o champaigne am ddim yn y seremoni (ond dyna fo de) oedd stumog fi'n dodgy iawn.

Oedd Sesiwn Fawr yn od darna really da iddo ond darna eraill o'r penwythnos yn warthus. Oedd gweld ffrindiau yn dda, Alun Tan Lan yn dda, cwrw da, a tywydd ardderchog. Ond ar y llaw arall o ni braidd yn siomedig o Super Furries, o ni'n meddwl bod ei det list nhw braidd yn ddiflas ar adegau, o ni isio clywed mwy o caneon efo mwy o fynd ynddi nhw. Ond dyna fo mae'r album nesa i fod mwy laid back. Un peth arall nesi ddim mwynhau oedd yr atmosphere yn Dolgellau, oedd na lot gormod o pobl yna yn chwilio am helynt. Nathna un prick gwirion just dod fyny ataf i nos sadwrn a dechra gwthio fi o gwmpas, do ni erioed di gweld y boi yn fy mywyd. Dwi ddim yn siwr sut nesi dal control o'n tymer, a natho ddim sinkio i fewn am rhyw ddeg munud be oedd di digwydd. I ddeud bod o ni braidd yn pissed off ar ol hyn yn understatement. Fysai wedi gallu bod yn llanast yna'n hawdd iawn, gan oedd y boi yna ar ben ei hyn a tua pymtheg o ni yna ar y pryd.....

Ma lluniau fi o'r sesiwn fawr ar gael ar flickr account newydd fi. Ma na ychydig o lluniau eraill yna fyd, a dwi'n trio adio ychydig mwy pob nos.

Hefyd dwi di ymuno yn y safle pubscymru (mae ond di cymeryd 2 flynedd i ni setio rhywbeth i fyny....)sydd da ni'n gobeithio am cael adolygiad o pob pub yn cymru rhyw ddydd. Dwi di rhoi un i fyny hyd yn hyn, ond fydd rhaid fi ddechra tynnu'n mys allan efo'r steddfod yn dod i Bangor mewn llai na pythefnos.

Hwyl am y tro