Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

8/25/2004

Nos Fercher

Ma genai lot i ddeud heno am rhyw rheswm!!!!

Dwi ar ganol trio newid design y blog ma, so watch this space de.

Dros y ddau diwrnod dwethaf dwi di cael 3 parsal o play.com sef,

  • Beastie Boys - To The 5 Boroughs

  • Cartwn Spiderman

  • Alan Partridge - Knowing Me Knowing You

Ond dwi ddim di cael siawns i sbio / gwrando arno nhw eto, gan dwi di bwyta paced cyfan o Liquorice Allsorts a dwi'n teimlo'n sal.

8/22/2004

Dydd Sul

Well, ma'n ddydd Sul, gwaith fory :(.

Dwi'n hapus bod Lerpwl di curo ddoe, gobeithio fydd y tim yn chwarae'n well na blwyddyn diwethaf.

Fory ma demo Rome Total War yn dod allan, dylsa fo fod yn dda, dwi methu diswyl chwara fo. Gafodd y technoleg ei ddefnyddio yn y rhaglen Time Commanders.

Hwyl

8/21/2004

Croeso I blog sbondedig o dda Tronaldo

Woohooo mai'n ddydd Gwener a gan fy mod i'n bored dwi di penderfynnu neud blog am dan fy hyn. Ma hwn am fod yn class o flog gan fod yn mywyd i mor ddiddorol.

MMM dwi ddim yn hapus iawn efo'r technoleg blog ma dio ddim yn licio Firefox(Sef y porwr we gora sydd i gael), ella fydd rhaid fi neud blog yn defnyddio html yn y dyfodol.

Oedd hi'n payday fi ddoe so watch out play.com, sydd am orfod delio efo ordor mawr iawn, wel i fi anyway.

Hwyl am y tro

Tron