Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

2/02/2006

Sleep Now In The Fire

Wehei dwi'n free man am y wythnos neu ddau nesaf, newydd orffen swydd dwi wedi bod efo ers blwyddyn a hanner. Fysai'n licio cymeryd y cyfle i ddiolch i pawb nesi cyfarfod yn y swydd am amser da gesi yna. Rwan dwi'n edrych i'r dyfodol a'r profiad o symud yn mlaen i ardal hollol newydd i fyw. Unrhywun allan yna'n byw yn Wrecsam????