Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

12/13/2005

Roulette Dares (The Haunt Of)

Diflasdod. Rhaid fi ddeud mae'r misoedd dwethaf ma di bod yn boring iawn. Does gennai ddim mynadd neud dim byd byth, a dwi yn gallu teimlo fy hyn yn mynd mwy a mwy unfit pob diwrnod. A fedrai ddim trio codi fitness lefel fi gan dwi di anafu fy mhenglin drwy nofio gormod.

Hefyd pam fod na ddim byd o gwbwl i'w wylio ar teledu ddim mwy, ma'r teledu mor shit yn ddiweddar dwi ddim di bod efo fo'n mlaen. Ar y nodyn yna fyd be ddiawl oedd y rhaglen rygbi shit na ar s4c neithiwr, sgorio sydd fod am 9:30 ddim rhyw juncket o amgylch clwbiau rygbi de cymru , a cael contest yn dangos pa mor "macho" mae nhw. Be di'r point ond rhyw 10 tim gwerth siarad am sydd yn chwara internationals, diom rhyfedd bod cymru'n dda ynddo fo. A fel fysa Goro'n ddeud ma'n bel siap wrong. [/rant]

Dwi angen darganfod hobbies newydd, os oes gan rhywun unrhyw syniadau?