Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

10/06/2004

Cryndod Yn Dy Lais

Wel unwaith eto rhaid fi ymddiheuro am ddim updatio'r blog ma unwaith eto, ond dwi wedi bod yn brysur iawn. Yn ddiweddar dwi di bod yn chwarae Final Fantasy XI ac Rome Total War, trwy'r adeg (boring de). Mae'r ddau gem yn hollol wych, mae'n anodd darganfod amser i chwarae nhw deud y gwir. Bron yr unig beth nesi neud dros y penwythnos dwethaf oedd chwarae Final Fantasy, ond nesi hefyd mynd allan 2 noson, felly do ni ddim just yn hermit bach yn fy llofft. Nos Wener dwethaf esi i parti priodas, ac nos Sadwrn esi i'r Railway Club yn Bangor. Yn perfformio'r yna oedd Gogs a Red Nature (wel oedd na fwy ond nesi cyrraedd yn hwyr, sori). Rhaid deud bod y ddau band yn dda iawn, mewn ffyrdd gwahanol. O ni erioed wedi bod yn y Railway Club o'r blaen a o ni reit surprised efo'r lle. Oedd o'n feniw da iawn, plus oedd peint yn £1.88, felly nesi trio cymeryd mantais de.

O ni'n really poeni heno, amser cinio heddiw nath reportar o'r BBC fyny i fi'n y stryd a gofyn be oedd barn fi ar Ryan Giggs. Wel o ni'n strugglo rhaid deud a neshi bullshitio rhywbeth chwerthinllyd (dydi ista'n sbio ar moniter pc trwy'r dydd ddim yn helpu chi feddwl yn gyflym), a o ni'n poeni fysai'n deud rhwybeth gwirion ar tv (Fel nath rhywun yn ystod Cwpan y Byd dwethaf). Ond diolch byth nath nhw ddim dewis fideo fi.

Oes na rhywun allan yna'n cofio rhywun yn deud y perl yma?

Cwpan y Byd ydi steddfod genedlaethol y byd peldroed

And on that bombshell nai adael chi am y tro.