Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

10/07/2004

Mein Teil

Wel gesi surprise da pan nesi gyrraedd adra heddiw, yn sbio fyny arno fi o'r bwrdd cinio oedd Cd newydd Rammstein sef Reise, Reise. Dwi di gwrando arno ddau waith rwan a mae o'n class. Mae o ychydig bach yn wahanol i'r Cd cynt Mutter dwi ddim yn siwr pryn di'r gora. Ond deud y gwir mae'r ddau yn wych. Fel unrhyw album Rammstein ma na dipyn o controversi ynddo. Mae'r ail can 'Mein Teil' am dan yr canibal almaeneg Armin Meiwes a'r proverb(ella dim y gair cywir, rhywun yn gwbod y gair iawn?) saesneg "You are what you eat". Mae Mein Teil yn golygu My Thing, mae'r geiriau llawn i'r can yma a llawer o rhai eraill ar gael ar y gwefan gwych http://herzeleid.com/.

Dyma llun o'r band o'r video o'r can Du Hast. Un o'r petha gora am y band ydi bod y canwr yn swnio'n really sinistr mae'n gwneud atmosphere gwych. Hefyd mae'r boi yn edrych fatha rhywun fysa chi byth isio messio efo.

Y Band Rammstein

Can arall da ar yr album ydi Amerika, sef can am America a'r dylanwad mae'r wlad yn cael ar gweddill y byd. Dwi ddim yn deallt be sy'n mynd mlaen yn y gan yn iawn ond ma na ychydig o saesneg yn y gan yma, sydd yn rhywbeth anaml iawn mewn can ganddynt. Dyma lyrics y cytcan,

We're all living in Amerika
Amerika ist wunderbar
We're all living in Amerika
Amerika, Amerika.

Ac pob hyn a hyn maen't yn taflu fewn ychydig o pethau fel coca-cola a Micky Maus. Gwych.