Mae'r blog yma am cynnwys fi yn mwydro am y peth cyntaf sy'n dod im meddwl. So mwy o shit fel y disgrifiad ma.

11/29/2004

This Fire

Wel, wel, wel ma hi bron yn Dolig!!! Pawb di cael ei presanta'n barod eto?

I gael fewn i'r mood nadolig nesi benderfynnu wrth y bwrdd bwyd neithiwr y byswn i'n ymarfer bwyta sprouts. Pob diwrnod Dolig ma fi a'n mrodyr yn cael cystadleath i weld pwy sy'n gallu bwyta mwyaf. Nesi fwyta 16+ neithiwr a dwi eriod di suffro mor ddrwg ers dipyn. Ych afiach. Oes rhywun allan yna di curo 16 mewn un pryd o'r blaen?

Tron

2 Sylwadau:

Blogger Gary dwedodd...

Tydw i ddim yn credu i mi fwyta 16 sprout yn fy mywyd - bwyd y diafol!

10:30 pm

 
Blogger Cai Larsen dwedodd...

Y drwg efo sbrowts ydi eu bod yn cynhyrchu gwynt ofnadwy. Hwyrach y byddai cystadleuaeth bwyta tatws yn ddoethach.

11:54 pm

 

Post a Comment

<< Cartref