Ofn : Cwn
Bloody hell dwi'n knackered heno!!! Dwi newydd fod yn nofio, a o ni'n struglo yn uffernol heddiw, dwi ddim di bod ers tua pythefnos. Plus ma mynd allan mwy aml yn really lladd fitrwydd rhywun. Wel be oeddech chi'n meddwl o perfformiad Cymru ar y penwythnos?
Dwi ddim yn hapus de, be oedd cymru'n neud? Ma nhw di disgwyl gymaint o amser i chwara gem yn erbyn Lloegr a unwaith eto ma nhw di bottloi. Faint o weithiau fedrith y tim ma neud hyn dwi ddim yn gwbod. Dwi'n gwbod bod oedd hi am fod yn anodd i ni guro Lloegr, ond fysai wedi licio gweld gem mwy agos. Nath Cymru dim byd i poeni Lloegr o gwbwl, a oedd yn siomedig iawn. Doedd na ddim sbarc yn y perfformiad o gwbwl. Oedd o'n dangos gymaint ma cymru'n methu rhywun fel Savage yn y tim. Fysa fo oleiaf wedi trio weindio pobl fyny, neu creu rhyw fath o sbarc neu flash point. Yr unig person nath rhywbeth ychydig bach i troi y gem mwy caled oedd Beckham, trwy fod mor wirion i feddwl fysa fo'n gallu cymeryd Thatcher allan dim unwaith ond dau waith. Be ddiawl oedd o'n trio neud neith neb wybod yn iawn ond i fi oedd o'n obvious bod o'n trio mynd am revenge, sef rhywbeth mae o wedi neud yn y gorffenol. Ac felly ei fai o ydio bod o am fethu mis o gemau.
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Cartref