All My Life
Waw ma di bod yn mis ers fi updatio hwn dwythaf!! Rhaid fi ddechrae darganfod amser i updatio mwy aml. I ddeud y gwir dwi di bod yn uffernol o brysyr yn ddiweddar.
Be sydd di digwydd yn y mis dwythaf?
- Ma Pro Evolution Soccer 4 di dod allan. Gem gwych arall gan Konami. Tim Cymru da, ref ar y cae, opsiynnau gwahanol pan yn cymeryd free kick, mwy o timau a Clock yn deud faint o amser o injury time sydd am fod, plus lot fawr o bethau eraill!!! Beat that Fifa.
- GTA San Andreas hefyd di dod allan, a ma'n wych. Dwi di bod yn chwara fo'n aml iawn, ella braidd rhy aml ond ma'n werth o. Dwi'n trio cadw fo at y penwythnos, fel fod genai lot o amser i neud missions a explorio.
- Dwi di bod i'r night club gwaethar byd y 'Venue' am y tro cyntaf a gobeithio'r tro olaf gobeithio. Oedd Rhuthun ddim yn bad ddo chwara teg ddim yn rhy ddrwg, pubs da yna.
- Mae'n cymeriad fi'n Final Fantasy XI fyny i lefel 14.
- Dwi di dechra chwara five-a-side pob nos fercher. Oedd o'n struggle y gem gyntaf de o ni ddim di chwara ers 4 mis!!!! Ond dwi'n dechra gwella'n slo bach rwan, a rhaid fi ddeud bod dwi'n really enjoio chwara eto.
Nos Da
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Cartref